Efydd Ffrwydriadol / Explosive Bronze
Defnyddiais y broses ‘cored lost wax’ i gyeu’r cerflun efydd hwn. Yn hytrach na weldio’r twll y ‘core’ i fyny, penderfynais arbrofi â thecstilau er mwyn gweld a fyddai efydd a thecstilau yn edrych yn effeithiol gyda’i gilydd. Ar ôl ychwanegu amrywiol wlân i’r darn efydd, credaf ei fod yn gerflun sy’n cyfleu’r elfen ffrwydriadol i’r darn.
I created this bronze sculpture by using the cored lost wax process. Instead of welding up the core hole, I decided to experiment with textiles to see if bronze and textiles would look effective together. After adding various wool to the bronze piece, I believe that this has added an explosive feel to the sculpture piece.
Haearn Ffrwydriadol / Explosive Iron
Ar ôl gweld yr effaith cefais gyda’r darn efydd, penderfynais creu ail gerflun o haearn. Y tro hwn defnyddiais y broses, ‘direct burnout’. Ymatebodd yr haearn yn ffrwydriadol gyda’r ffôm ac fe ddechreuodd y mowld gracio yn hanner. Er hyn fe ddaeth dau haen denau o haearn allan o’r mowld; mae hyn yn gadael i mi arbrofi ymhellach gyda haearn a thecstilau. Unwaith eto ychwanegais amrywiol wlân i’r darn er mwyn cyfleu’r effaith ffrwydriadol a ddigwyddodd wrth greu’r cerflun hwn.
After seeing the effect that I had with the bronze piece, I decided to recreate an iron sculpture. This time I used a direct burnout process. The iron reacted with the foam and the mould started to crack in half. Two thin pieces of iron came out of the mould; which allowed me to experiment further with iron and wool. Once again I added various wool to the piece which reflects the explosive effect that happened whilst creating this sculpture.
~~~~~~~~~~~~
Dwi’n gerflunydd sydd yn creu darnau cerfluniol gan ddefnyddio hen ddeunyddiau hindreuliedig gan ychwanegu yr elfen gyfoes iddynt wrth gyfleu a chysylltu deunyddiau/eitemau. Dwi’n ferch fferm, felly rwy’n cymryd deunyddiau/eitemau a fu’n werthfawr ar un adeg ar y fferm a fyddai’n cael eu gwerthfawrogi unwaith eto mewn byd celfyddydol. Dwi wedi cael fy nghyffroi gyda amrywiol llifiadau; llifo haearn, llifo efydd a llifo alwminiwm. Dwi hefyd wedi cael fy nghyffroi wrth weld haearn yn ymateb gyda’g amrywiol ddeunyddiau sydd wedi’i gosod yn y mowld.
Bwriad fy ngwaith diweddaraf yw cyfleu pwy ydw i gan ddefnyddio’r deunyddiau dur, haearn a thecstilau. Wrth gyfuno’r deunyddiau hyn rwy’n ceisio gwthio yn erbyn yr hyn sy’n cael ei weld fel y rôlau penodol yn ôl rhyw yn y gweithle. Wrth ychwanegu deunyddiau’r fferm rwy’n cyfuno elfen arall o fy mywyd i fy ngwaith ond hefyd yn rhoi rôl metafforig i’r offer hyn.
I am a sculptor that creates sculptural items using old found-objects/materials with the addition of contemporary elements. I am a farmer’s daughter, so I take materials/items which were once valuable on the farm but have since become redundant and transform them to be precious once again, but this time with a different purpose within the artistic world. I have also fallen in love with creating new items from casting iron, bronze and aluminium. I became excited when seeing iron react when various materials have been placed in the mould.
The aim for my latest work is to portray who I am by using steel, iron and textiles. By combining these materials, I am challenging the stereo-typical gender-specific roles in the workplace. By using farm objects, I am adding another element of my life to my work but also giving these implements a metaphoric role.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.
.